Wicipedia:Ynglŷn â Wicipedia

Gwyddioniadur rhydd yw Wicipedia a ysgrifennir yn gydweithredol gan ddarllenwyr y safle hon. Yr ydym yn y broses o ysgrifennu / cyfieithu canllawiau a gwybodaeth ar sut i ddarllen, ysgrifennu a chyfrannu i'r safle.

Mae'r safle yn enghraifft o wici, sef math arbennig o wefan lle gall unrhyw un sydd â chysylltiad i'r rhyngrwyd olygu tudalennau trwy glicio ar y botwm golygu. Dechreuwyd y safle Saesneg yn 2001, ac mae'r fersiwn honno wedi tyfu i ddod yn un o'r safleoedd mwyaf poblogaidd ar y we. Nôd y Wicipedia Cymraeg, a sefydlwyd yn 2003, yw i efelychu'r llwyddiant hwnnw ac i ddod yn adnodd defnyddiol i siaradwyr Cymraeg ar y we.

Mae'n bwysig cofio fod gwahaniaethau sylfaenol yn bodoli rhwng Wicipedia a ffynonellau gwybodaeth traddodiadol. Gan fod yr hawl gan unrhywun i olygu tudalennau, mae gwallau yn medru treiddio erthyglau, ac yn achlysurol ceir fandaliaeth neu wybodaeth anghywir mewn erthygl.

[golygu] Mae'r wybodaeth yn rhydd i bawb

Gweler: Wicipedia:Hawlfraint

Rhoddir cyfraniadau i Wicipedia yn hollol wirfoddol, o dan y GNU Free Documentation License (GFDL). Mae'r drwydded hon yn defnyddio'r broses hawlfraint i sicrhau nad yw'r wybodaeth byth yn cael ei reoli gan unrhyw un person, fel ei bod ar gael am byth.

Felly, mae'r wybodaeth yn Wicipedia ar gael i unrhyw un ei chopïo, ei hail-ddosbarthu neu ei newid dros eu hunain, cyn belled â bod y fersiwn newydd yn rhoi'r un hawliau i eraill, a bod awduron yr erthygl wreiddiol yn derbyn cydnabyddiaeth (fel arfer mae cysylltiad nôl i'r erthygl wreiddiol yn gwneud y tro). [[fr:Wikipédia:À propos]] [[ja:Wikipedia:&ïamp;#edbafb;&#edbafe;&#edb9fe;&#edaff9;&#edb7f8;&#edbafe;&#edbaff;&#edc6fa;&#edc7f7;&#edcaf9;&#edc6ff;]]


śmieszny prezent Opisy Pionowe Diagnostyka samochodowa ustalanie ojcostwa informacje turystyczne pozycjonowanie www Poznań Detox Vision Kredyty samochodowe WYBORY PARLAMENTARNE Hosting Biskupice Oławskie Ubranka dla psów Noże Nagrobki Pierścionki kick koparki Bułgaria wczasy Karaoke expekt COOLsurf