|
Blwch offerIeithoedd eraill
|
Wicipedia:GweinyddwyrMae'r gweinyddwyr yn ddefnyddwyr sydd a galluoedd arbennig ganddynt yn eu galluogi i wneud rhai tasgau cynnal a chadw ar Wicipedia. Nid y gweinyddwyr sydd yn penderfynu ar y tasgau heblaw ei fod yn dasg amlwg neu angen ei wneud yn ddiymdroi (e.e. dileu lluniau sydd wedi eu huwchlwytho heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint). Yn hytrach gweithredu penderfyniadau'r gymuned yw eu swyddogaeth. Maent yn ddefnyddwyr eu hunain, sydd yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol ychwanegol yn ddi-dâl. Eu prif dyletswyddau yw diogelu a dileu tudalennau, golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu, rhwystro defnyddwyr, a dad-wneud y gweithredoedd hyn i gyd hefyd.
[golygu] Creu gweinyddwyrBiwrocratiaid yw'r rhai sydd â phwerau uwch fyth ganddynt (gweler Wikipedia), a'r rhain sydd yn arfogi gweinyddwr. Os ydych am gynnig chi eich hunan neu ddefnyddiwr arall i fod yn weinyddwr gallwch wneud hynny ar y caffi. Mae'n arferol disgwyl i gael eilydd neu ddau o blith y defnyddwyr cyn i fiwrocrat greu gweinyddwr. Mae'n rhaid i ddefnyddiwr gydsynio i fod yn weinyddwr cyn cael ei wneud yn weinyddwr. Nid oes terfyn ar gyfnod penodiad fel gweinyddwr ond fe all pwerau gweinyddwr gael eu tynnu oddi arno. Gall hyn ddigwydd ar gais y gweinyddwr ei hunan. Mewn achosion lle y camddefnyddiwyd pwerau gweinyddwr gall stiward ddileu ei statws gweinyddwr yn unol â phenderfyniad gan Jimbo Wales neu'r pwyllgor cyflafareddu (gweler Wikipedia am eglurhad pellach). [golygu] Galluoedd gweinyddwyrRhain yw'r prif dasgau y gall gweinyddwyr eu gwneud:
Os ydych am newid rhywbeth ar dudalen sydd wedi ei ddiogelu eglurwch y newid ar y dudalen sgwrs a rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar y dudalen sgwrs. Os ydych am newid rhywbeth yn y rhyngwyneb heb wybod teitl y neges i'w newid gallwch godi'r mater ar y Caffi neu Wicipedia:Cymorth iaith, gan nodi'r neges gwreiddiol a'r dudalen y daethoch ar draws y neges arni. Oherwydd bod newid y ffeiliau pwysicaf megis Monobook.css yn gallu gwneud niwed i'r rhyngwyneb neu i'r wefan gyfan digon posib y bydd yn rhaid galw am gymorth datblygwyr y meddalwedd ar Mediawiki er mwyn diwygio rhai ffeiliau.
[golygu] Gofyn am gymorth gweinyddwrOs oes angen cymorth gweinyddwr arnoch, cewch naill ai -
Gan fod criw y wicipedwyr Cymraeg yn fach o'i gymharu â Wikipedia Saesneg mae'r ymateb i geisiadau yn gallu bod yn arafach o lawer nag yw hi ar Wikipedia. Y mae weithiau'n gallu bod yn anodd dirnad ystyr diffyg ymateb i gynnig – ai diffyg cefnogaeth sydd wrth ei wraidd ynteu dim gwrthwynebiad i'r cynnig, neu diffyg amser i ystyried pob trafodaeth ac ymateb iddynt. Mae tuedd wedi datblygu i gymryd bod cynnig yn dderbyniol os na fynegir unrhyw wrthwynebiad iddo. Os na chewch ymateb i gais am help gweinyddwr peidiwch â digalonni – rhowch nodyn i'w hatgoffa ar y Caffi ar ôl rhai wythnosau.
[golygu] Rhestr GweinyddwyrDyma restr y gweinyddwyr ar Wicipedia ar hyn o bryd.
|