|
Blwch offerIeithoedd eraill
|
WicipediaGwyddoniadur rhyngwladol, aml-ieithog a reolir gan y Wikimedia Foundation yw Wicipedia. Fis Awst 2008, roedd dros 2,500,000 o erthyglau yn y fersiwn Saesneg. Ailddechreuodd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003 yn dilyn creu meddalwedd newydd i Wicipedia. Erbyn hyn 18,507 o erthyglau ar y fersiwn Cymraeg. Ymhlith y fersiynau eraill o Wicipedia a geir, mae Catalaneg, Llydaweg a Gwyddeleg. Dechreuodd y fersiwn Saesneg ym mis Ionawr 2001, a dros y pum mlynedd dilynol dechreuwyd fersiynau mewn dros 200 o ieithoedd.
[golygu] Nodweddion pwysigMae gan brosiect Wicipedia dair nodwedd bwysig, sy'n diffino ei le ar y We Fyd-Eang:
[golygu] FandaliaethMae "fandaliaeth" yn fater pwysig ar Wicipedia: golygiadau hurt neu atgas i erthyglau'r gwyddoniadur. Mae erthyglau sydd wedi cael eu fandaleiddio yn cael eu gwrthdroi ac mae'n bosibl gwahardd y fandal. [golygu] PolisïauMae cyfranogwyr Wicipedia yn dilyn ychydig o bolisïau sylfaenol.
[golygu] PersonelMae Wicipedia wedi cael ei newid gan filoedd o bobl. Mae Wicipedia yn galw pobl sydd yn ei newid yn Wicipedwyr. Mae cyfanswm y newidiadau yn y fersiwn Saesneg wedi dyblu rhwng Ionawr 2002 a Ionawr 2003, o 1000 y dydd i 2000 y dydd. Does dim prif newidwr, fel y mae. Y ddau berson a sefydlodd Wicipedia yw Jimmy Wales (CEO o'r cwmni bach Rhyngrhwyd Bomis Inc) a Larry Sanger. Yn y 13 mis cyntaf talwyd Sanger gan Bomis i weithio ar Wicipedia. Dywedwyd bod Sabger wedi cymryd rôl canolwr, yn gwneud penderfyniadau mewn amser o ddadlau poeth. Nid oedd hwn yn seiliedig ar awdurdod ffurfiol, ond gofynion y defnyddwyr. Rhedodd y cyllid allan am ei safle, yn dilyn ei ymddeoliad yn Chwefror 2002. Mae gweithwyr Bomis, sydd wedi gweithio ar y gwyddionadur, yn cynnwyd Tim Shell, un o gyd-sefydlwyr Bomis, a hefyd Jason Richey a Toan Vo. Dywedodd Richard Stallman, yr ymgyrchydd dros meddalwedd di-dâl, fod sefydliad Wicipedia yn "newyddion cyffrous". [golygu] HanesMae Wicipedia wedi bod yn rhedeg ers y 10fed Ionawr 2001, ac mae'r Wicipedia Cymraeg wedi bod yn rhedeg ers y 14eg Gorffennaf 2003. [golygu] Meddalwedd a chaledweddY fersiwn o feddalwedd wiki a ddefnyddid i gynnal Wicipedia yn wreiddiol oedd UseModWiki, a ysgrifennwyd gan Clifford Adams ("Cyfnod I"). I gychwyn, roedd rhaid defnyddio CamelCase ar gyfer dolenni, ond yn fuan roedd yn bosib defnyddio'r dull bracedi dwbl presennol. Yn Ionawr 2002, fe gychwynodd Wicipedia defnyddio meddalwedd wiki PHP a ysgrifenwyd ar gyfer Wicipedia gan Magnus Manke, gyda bas data MySQL, ac ychwanegwyd sawl rhinwedd newydd ("Cyfnod II"). Ar ôl ychydig, fe arafodd y safle i'r fath raddau fod golygu yn amhosib bron; fe newidwyd y meddalwedd sawl tro ond dim ond am ychydig y lleddfodd hynny'r broblem. Yna, ysgrifenodd Lee Daniel Crocker y meddalwedd o'r newydd; mae'r fersiwn newydd, sydd llawer yn well, wedi bod yn rhedeg ers Gorffennaf 2002. Gelwid y meddalwedd "Cyfnod III" hwn yn MediaWiki. Ers hynny, mae Brion Vibber wedi ymgymryd â thrwsio gwallau. Cynhelir y prosiect ar weinydd neilltuol, a leolwyd yn San Diego. Mae'r gweinydd hwn yn gyfrifol am Wicipedia ymhob iaith. CPU Athlon deublyg 1700+ ydyw, gyda 2 GB o RAM, a'n rhedeg Red Hat Linux a'r gweinydd gwê Apache. [golygu] Prosiectau cysylltiedigMae gan Wicipedia brosiectau cysylltiedig:
[golygu] Cysylltiadau allanol a chyfeiriadau
|