Ieithoedd eraill

Seryddiaeth

Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd y tu allan i atmosffer y Ddaear yw Seryddiaeth, gan gynnwys y sêr a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau tu hwnt i'r ddaear, ac astudio tarddiad a datblygiad gwrthrychau a welir yn yr awyr, ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol.

I'r dyn cyntefig roedd y sêr yn rhyfeddod llwyr. Roedd yn addoli'r haul a'r lleuad gan edrych arnynt fel duwiau.

Am filoedd o flynyddoedd credid mai'r ddaear oedd canolbwynt y greadigaeth a bod y nen yn troi o amgylch y byd unwaith y dydd, ac fe grewyd calendrau gan y Swmeriaid a'r Babyloniaid, a'r Eifftiaid a'r Groegiaid yn ddibynnol ar y symudiadau yn y ffurfafen.

Aristotle (384 C.C. - 322 C.C.) yw'r dyn cyntaf a brofodd nad oedd y byd yn wastad (er mae'n debyg bod pobol yn deall hyn ymhell cyn hynny), ac fe awgrymwyd bod y ddaear yn cylchdroi o gwmpas yr haul gan Aristarchus o Mosa, tua 280 C.C..

Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd seryddwyr yn arsyllu â'r llygad noeth, ond gyda dyfodiad y telisgop derbyniwyd nad y ddaear oedd canolbwynt y bydysawd.

[golygu] Cysylltiadau allanol


Planedau: Mercher | Gwener | Y Ddaear | Mawrth | Iau | Sadwrn | Wranws | Neifion

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


reklama w google Hosting www Atari Gry gry Perfumeria Łożyska samochodowe Świąteczne Opisy Pożyczki hipoteczne Forex Bielizna damska Informator medyczny katalog www Pozycjonowanie stron Opis kabli Perfumy kick koparki Bułgaria wczasy Karaoke expekt COOLsurf