Planhigyn
Grŵp o bethau byw yw planhigion. Mae tua 300,000 o rywogaethau, gan gynnwys coed, blodau, rhedyn a mwsoglau. Astudiaeth planhigion yw botaneg.
Dosberthir planhigion yn y deyrnas Plantae. Mae'r deyrnas hon yn cynnwys yr algâu gwyrdd fel arfer. Dosbarthwyd grwpiau eraill o algâu a ffyngau fel planhigion yn y gorffennol ond fe'u dosberthir mewn teyrnasoedd gwahanol bellach.
Organebau amlgellog yw planhigion. Mae'r rhan fwyaf o blanhigion yn cael eu hegni drwy ffotosynthesis.
[golygu] Dolenni allanol
|