Odessa

Theatr Odessa, Odessa
Theatr Odessa, Odessa
Erthygl am ddinas Odessa yw hon. Gweler hefyd Odessa (gwahaniaethu).

Odessa, neu Odesa (Wcreineg: Одеса; Rwseg: Одесса) yw dinas bedwaredd fwyaf Wcráin. Mae ganddi boblogaeth o rhwng 1,029,000 (Cyfrifiad 2001) a 1,080,000 (amcangyfrif 2008). Mae'r ddinas yn borthladd pwysig, y mwyaf yn y wlad, sy'n gorwedd ar lan ogleddol y Môr Du.

O 1819 hyd 1858 roedd Odessa yn borthladd rhydd (porto franco). Yn y cyfnod Sofietaidd Odessa oedd porthladd pwysicaf yr Undeb Sofietaidd ac roedd hefyd yn wersyll llynges fawr. Yn y 19eg ganrif, hon oedd y bedwaredd ddinas yn y Rwsia Imperialaidd, ar ôl Moscow, Saint Petersburg, a Warsaw. Heddiw ceir dau borthladd yn ninas Odessa: Odessa ei hun a Yuzhny (sydd hefyd yn borthladd olew), sy'n gorwedd ym maesdrefi'r ddinas. Ceir porthladd pwysig arall yn oblast Odessa, sef Illichivs'k (Ilyichyovsk), i'r de-orllewin o Odessa. Gyda sawl rheilffordd yn rhedeg o'r ddinas hefyd, mae'n un o greosffyrdd cludiant pwysicaf y wlad. Ceir gweithfeydd prosesu olew a chemegion yn Odessa hefyd, a gysylltir â rhwydweithiau Rwsia a'r Undeb Ewropeaidd trwy gyfres o bibellau strategol.

Dechreuodd y ddinas fel gwladfa Groegaidd. Mae ei hanes yn ddrych i hanes hir a chymhleth Wcráin a Rwsia.

Lleolir dinas Odessa ar res o fryniau sy'n codi ger harbwr naturiol bychan, tua 31 km (19 milltir) i'r gogledd o aber Afon Dniester a thua 443 km (275 milltir) i'r de o'r brifddinas, Kiev. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol a sych, gyda tymheredd ar gyfartaledd yn Ionawr o -2 °C (29 °F), a 22 °C (72 °F) yng Ngorffennaf. Ceir tua 350 mm (14 mod.) o law mewn blwyddyn.

Y brif iaith ar y stryd yw Rwseg, gyda'r Wcreineg yn llai cyffredin er ei bod yn iaith swyddol y wlad. Ceir cymysgfa o bobl o sawl cenedligrwydd a chefndir ethnig yno, yn cynnwys Wcraniaid, Rwsiaid, Groegiaid, Iddewon, Moldofiaid, Bwlgariaid, Armeniaid, Georgiaid, Almaenwyr, ac eraill.

[golygu] Gefeilldrefi

[golygu] Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Informator medyczny Expekt Baza przedszkoli Blog Fotografia bielizna Karate, stepper, boks, yoga Transport do USA Rolety muzyczne albumy za free, album Cena Nikon D3 Rtv Muzyka bogaty ojciec Zdjęcia zwierząt Sztuczna biżuteria kick koparki Bułgaria wczasy Karaoke tani kredyt hipoteczny COOLsurf