|
|
Morgi
Grŵp o bysgod yw morgwn (neu siarcod). Mae gan forgwn sgerbydau cartilagaidd, cennau miniog yn gorchuddio eu cyrff, rhesi o ddannedd miniog a rhwng pump a saith o agennau tagell ar ochr eu pen. Mae'r mwyafrif o forgwn yn ddiniwed ond mae ychydig o rywogaethau yn ymosod ar bobl weithiau.
|