|
|
Margaret Thatcher
Margaret Hilda Thatcher (née Roberts) (ganwyd 13 Hydref 1925), Prif Weinidog Ceidwadol Prydain 1979 i 1990, a'r ddynes gyntaf i ddal y swydd. Ni wnaeth neb fwy na hi i chwalu'r consensws gwleidyddol wedi'r Ail Ryfel Byd. Yr oedd yn benderfynol o estyn y farchnad rydd, ac yn ystod ei llywodraeth hi, preifateiddiwyd llu o wasanaethau cyhoeddus a diwydiannau a wladolwyd gan lywodraeth Llafur, gan gynnwys y rheilffyrdd, dŵr, trydan, nwy, olew, glo a dur. Ei sedd seneddol oedd Finchley yn Llundain.
Daeth yn symbol o'r gwrthdaro rhwng y chwith a'r dde ym Mhrydain, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr 1984 i 1985. Cymaint oedd ei dylanwad hi fel y llwyddodd i weddnewid gwleidyddiaeth Prydain yn gyfan gwbl, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Llafur Newydd.
|