|
Blwch offer |
IauErthygl yw hon am yr offeryn amaethyddol a elwir yn iau. Am ystyron eraill gweler Iau (gwahaniaethu). Darn o bren wedi ei wisgo am wddf pâr o anifeiliaid yw iau. Defnyddir yr offer hwn i alluogi anifeiliaid i dynnu llwyth, e.e. aradr, coed, trol, cert, neu i droi pwmp dŵr i ddyfrhau. Pwrpas yr iau yw rhannu gwaith y tynnu ar draws ysgwyddau’r anifeiliaid. Defnyddir ieuau ar geffylau weithiau ond ar ychain y’i gwelir amlaf. Defnyddir ychain â chyrn arnynt er mwyn cadw’r iau yn ei le pan fyddant yn arafu, yn cerdded am nôl neu yn gostwng eu pennau. [golygu] Llyfryddiaeth
|