|
Blwch offerIeithoedd eraill
|
Gweriniaeth Iwerddon
Gweriniaeth ar ynys Iwerddon yw Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Poblacht na hÉireann, Saesneg: Republic of Ireland; yn swyddogol Éire neu Ireland). Dulyn yw prifddinas y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon. Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn 'Uachtarán' neu Arlywydd, ond y 'Taoiseach' ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog.
[golygu] Daearyddiaeth[golygu] HanesMae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd 'Gweriniaeth Iwerddon'. Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg: Saorstát Éireann) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Freestate), roedd yr enw Saesneg, Irish Freestate, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni. [golygu] Cyfansoddiad 1937Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon, y cyfansoddiad sydd mewn grym o hyd. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (Éire, Ireland) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw. [golygu] Deddf Gweriniaeth IwerddonYn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw 'Deddf Gweriniaeth Iwerddon' a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw 'Gweriniaeth Iwerddon' i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhynwgladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (Éire, Ireland) yw'r enw a ddefnyddir. [golygu] Y Werinaeth Wyddelig a Gweriniaeth IwerddonNid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw 'y Weriniaeth Wyddelig' (Saesneg: The Irish Repblic) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n de juré (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac y mae rhai carfannau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon. Defnyddir yr enw 'Gweriniaeth Iwerddon' (Saesneg: The Republic of Ireland) ar lafar gwlad i gyfeirio at Éire/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon. [golygu] Iaith a diwylliant[golygu] Economi
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||