|
Blwch offerIeithoedd eraill
|
BiałystokDinas yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Pwyl yw Białystok (cynaniad biawustoc). Tyfodd o fod yn dref ddi-nod yn y 18fed ganrif dan reolaeth y teulu Branicki. Dioddefodd y ddinas yn enbyd yn yr Ail Ryfel Byd pan laddwyd hanner y boblogaeth gan y Natsïaid. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'i diwydiant hefyd ond mae'r ddinas wedi ailadeiladu ei hun ers hynny. Mae 295,000 o bobl yn byw yno heddiw (cyfrifiad 2005). Brodor o Białystok oedd L. L. Zamenhof, dyfeisydd yr iaith Esperanto.
|